HERBERT, REGINALD (1841 - 1929), Clytha gerllaw y Fenni, sir Fynwy, 'sportsman' a marchogwr ceffylau hela a cheffylau rasio

Enw: Reginald Herbert
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1929
Rhiant: Frances Herbert (née Huddleston)
Rhiant: William Herbert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'sportsman' a marchogwr ceffylau hela a cheffylau rasio
Cartref: Clytha
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Herbert John Lloyd-Johnes

Ganwyd 14 Chwefror 1841, mab hynaf William Herbert, D.L., Clytha, a Frances, merch Edward Huddleston, Sawston Hall, sir Caergrawnt. Addysgwyd ef yn breifat ac yn Ffrainc ac yna ymunodd â'r Royal Gloucestershire Hussars. Cymerodd yr enw Huddleston yn ychwanegol pan etifeddodd stad Sawston Hall, 1920-1. Dechreuodd ymddiddori mewn ceffylau rasio yn gynnar yn ei oes a daeth i'w gydnabod ymhlith goreuon marchogwyr ceffylau. O 1864 ymlaen enillodd amryw droeon mewn rasus a gynhelid yng ngorllewin Lloegr, gan gynnwys y Cheltenham Grand Annual. Y mae iddo enwogrwydd ym myd 'sport' am ei fod yn un o'r rhai cyntaf i gyflwyno gêm 'Polo' i Brydain. Yr oedd yn aelod sylfaenol o'r Hurlingham Club, ac efe oedd i raddau helaeth yn gyfrifol am sefydlu Ranelagh, sefydliad y bu'n gysylltiol ag ef am 16 mlynedd. Bu'n feistr y Monmouthshire Fox Hounds am 17 mlynedd; yr oedd hefyd yn nodedig fel saethwr colomennod - enillodd lawer o wobrwyon am hyn yn y wlad hon ac mewn gwledydd tramor. Cymerai ddiddordeb hefyd mewn gyrru coetsus ac mewn sgwlio. Cyhoeddodd, 1908, When Diamonds were Trumps - llyfr yn rhoddi cryn dipyn o hanes ei fywyd fel 'sport' ac a gyfrifir ymhlith clasuron llenyddiaeth y bywyd hwnnw. Yr oedd yn un o ddirprwy-raglawiaid sir Fynwy. Bu farw 16 Hydref 1929.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.