Ganwyd 26 Mai 1837 yn Nhyddewi, Sir Benfro, mab Thomas Hicks, meddyg, ac Anne, merch William Griffiths, Caerfyrddin. Bu yn ysbyty Guy's, Llundain, yn paratoi ar gyfer bod yn feddyg a bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yn Nhyddewi. Cyfarfu yno â J. W. Salter a oedd yn gweithio ar ffosylau ar ran y Geological Survey, a daeth i deimlo diddordeb mewn daeareg. Er iddo barhau gyda'i alwedigaeth, gan ddyfod maes o law yn bennaeth gwallgofdy preifat yn Hendon, cofir am Hicks ar gyfrif ei waith mewn daeareg. Bu'n ysgrifennydd y Geological Society, 1890-2, ac yn llywydd, 1896-8; cafodd fedal Bigsby y gymdeithas yn 1883. Etholwyd ei yn F.R.S. yn 1885. Heblaw ysgrifennu ar bynciau meddygol, yr oedd yn awdur dros 60 o bapurau ar bynciau daearegol yn delio, gan mwyaf, â'r creigiau hynaf yn ardal Tyddewi ac ucheldiroedd Sgotland, ogofâu Ffynnon Beuno a Cae Gwyn (Gogledd Cymru), lle y darganfuwyd hen esgyrn, ac â'r haenau a osodwyd i lawr yn ystod Oes y Rhew ac yn union wedi hynny. Yr oedd llawer o'i waith argraffedig yn delio â phethau yr oedd dadlau yn eu cylch; yr oedd ef yn ddadleuwr pybyr ond ystyriol. Priododd 1864, Mary, merch Arthur Richardson, ficer S. Dogwells, Sir Benfro. Bu farw 18 Tachwedd 1899.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.