Ganwyd yn Chadwich, sir Worcester; ymaelodi yn Magdalen Hall, Rhydychen; B.A., 1651. Prin yr oedd wedi gorffen ei yrfa yn y brifysgol na ddarbwyllwyd ef i ymuno â phregethwyr Cymru o dan Ddeddf y Taeniad, gan deithio o fan i fan yn Sir Gaerfyrddin; ar derfyn gweinyddiad y ddeddf honno, a chan nad oedd gan y ' Triers ' newyddion fawr cydymdeimlad â'r drefn deithiol ymsefydlodd fel gweinidog yn Rhosili yng Ngŵyr. Gorfu arno roddi'r fywoliaeth honno heibio o dan ddeddf mis Medi 1660 (12 Chas. II, c. 17), ond yr oedd y brenin wedi ei enwi'n barod yn rheithor Porteynon; tyngodd y llwon angenrheidiol, fel y tystia ei enw yng nghofnodion esgobaeth Tyddewi. Ni allai lyncu gofynion Deddf Unffurfiaeth 1662, a gwelir yn Nhachwedd y flwyddyn honno enw rheithor newydd yno ' per nonconformitatem Danieli Higgs.' O hynny allan, ymddengys ei enw fel Anghydffurfiwr dwys a chadarn; sicrhaodd drwydded i bregethu yn ei dŷ ei hun yn Abertawe yn Ebrill 1672 (o dan Ddeclarasiwn Siarl II), a theimlai'n siomedig na chawsai fwy o leoedd i bregethu ynddynt (llwyddodd, mae'n wir, i sicrhau pedair trwydded arall i bregethu ym Mrowyr, ond nid yw y cofnodion swyddogol yn rhoddi ei enw i lawr fel pregethwr ynddynt). Yn 1675 gelwir ef, ond nid yn rhyw sicr iawn, yn fugail ar Annibynwyr pwerus Abertawe a'r cylch. Iechyd gwael oedd iddo, a gorfu iddo fwy nag unwaith adael Abertawe am ei le genedigol. Yno y bu farw yn 1691, rywbryd cyn mis Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.