Un o flaenwyr mwyaf chwim ac egnïol ei ddydd, a chanddo allu anarferol i ymateb i argyfwng - yr oedd yn dda fel gwthiwr, fel 'taclwr,' fel 'pasiwr,' ac fel troediwr. Yng Nghasnewydd y ganwyd ef, a thros Gasnewydd y chwaraeodd ar hyd ei yrfa. Cynrychiolodd Gymru 23 o weithiau.
Diwrnod mawr ei hanes oedd hwnnw yn Abertawe yn 1903 pan chwaraeai yn erbyn Lloegr : anafwyd un o'r asgellwyr Cymreig, a thynnwyd Hodges allan o blith y blaenwyr i gymryd ei le; enillodd yntau dri 'chais.'
Bu farw 13 Medi 1930.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.