HOLLAND, SAMUEL (1803 - 1892), un o arloeswyr y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a phrif hyrwyddwr sefydlu ysgol Dr. Williams i ferched yn nhref Dolgellau

Enw: Samuel Holland
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1892
Priod: Caroline Jane Holland (née Burt)
Rhiant: Katherine Holland (née Menzies)
Rhiant: Samuel Holland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arloeswyr y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a phrif hyrwyddwr sefydlu ysgol Dr. Williams i ferched yn nhref Dolgellau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 17 Hydref 1803 yn Duke Street, Lerpwl, mab Samuel Holland (a oedd â chysylltiad rhyngddo â gweithydd plwm, copr, a llechi yng Ngogledd Cymru) a Katherine Menzies. Wedi cael addysg mewn ysgolion yn Lloegr a'r Almaen dechreuodd weithio yn swyddfa ei dad yn Lerpwl. Dechreuodd ei gysylltiad hir a di-dor â Chymru yn 1821; y flwyddyn honno fe'i danfonwyd i edrych ar ôl yr ychydig weithwyr a oedd gan ei dad mewn chwarel lechi newydd yn Rhiwbryfdir yn mhlwyf Ffestiniog. Yn ei hunangofiant (yn NLW MS 4983C , sydd heb ei gyhoeddi - gweler hefyd y MSS. eraill a nodir isod) rhydd Holland fanylion diddorol am ei gysylltiad â'r diwydiant llechi ac am ei ddiddordebau eraill yng Nghymru. Adroddir sut y bu mai ef a ellir ei gyfrif yn brif hyrwyddwr ysgol Dr. Williams, sydd yn rhoddi addysg uwchraddol i ferched, yn Nolgellau. Bu'n cynrychioli sir Feirionnydd yn y Senedd (fel Rhyddfrydwr) o 1870 hyd 1885. Bu'n byw am flynyddoedd yn Plas Penrhyn, Penrhyndeudraeth, ac, yn niwedd ei oes, yn Caerdeon, rhwng Abermaw a Dolgellau. Bu farw ar 27 Rhagfyr 1892 a bu ei weddw Caroline Jane (née Burt) farw yn 1924.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.