Ganwyd yn Nhrefynwy. Fe'i haddysgwyd yn ysgol ramadeg Trefynwy a Choleg All Souls, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1728. Wedi iddo fod yn gurad mewn amryw leoedd yn Sussex fe'i dewiswyd yn athro cynorthwyol ysgol ramadeg Cuckfield yn 1731, yn ficer Bolney, pentref cyfagos, yn fuan wedyn, yn athro ysgol Cuckfield yn 1756, ac, yn 1766, yn gurad Slaugham, y cyfan yn yr un sir. Cyhoeddodd nifer o weithiau dienw yn Saesneg yn beirniadu ffurfwasanaeth yr Eglwys ac yn gosod allan syniadau Ariaidd. Cefnogodd y ddeiseb i'r Senedd yn erbyn datganiad gorfodol o gydymffurfiad â'r Deugain Erthygl Namyn Un, ac yn 1772 cyhoeddodd ddau bamffled dienw ar y pwnc. Fel ficer Bolney a churad Slaugham gwnaeth y cyfnewidiadau a ddymunai yn y gwasanaeth heb wrthwynebiad gan y wardeiniaid. Bu farw yn 1786 yn 80 mlwydd oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.