Ganwyd yn Waunbrics, Sain Clêr, Sir Gaerfyrddin, 31 Mawrth 1797, mab Dafydd Howell. Derbyniwyd ef yn ieuanc i gymundeb seiat Bancyfelin gan Thomas Charles o'r Bala. Aeth i Abertawe yn 1814 i ddysgu crefft teiliwr, ac ymaelododd yn eglwys y Crug-glas. Dechreuodd bregethu yno yn 1817; anfonwyd ef gan ei gyfundeb yn genhadwr i sir Faesyfed yn 1821, ac ymsefydlodd ym Mhen-y-bont. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1824. Dychwelodd i Abertawe yn 1827, a phriododd Mary, merch ei hen feistr, John Cadwalader, blaenor gyda'r Methodistiaid. Aeth i Gaerfyrddin am dymor byr yn 1840; symudodd i Lanilltud Fawr yn 1842 i ofalu am eglwysi Methodistaidd Bro Morgannwg. Dychwelodd drachefn yn 1845 i Abertawe i fugéilio eglwys y Drindod, ac yno y bu yn fawr ei ddylanwad hyd ei farwolaeth ar 4 Awst 1873; claddwyd ef ym mynwent y Crug-glas. Yr oedd yn un o brif arweinwyr Methodistiaid Morgannwg ar hyd y ganrif ddiwethaf. Nid oedd yn bregethwr mawr; llefarai'n afrwydd a phregethai'n drymaidd. Ond yr oedd ganddo bersonoliaeth gref, a chredai pawb ei fod yn ŵr duwiol. At hyn oll rhaid ychwanegu ei ynni a'i weithgarwch diorffwys a'i gwnâi yn rym ac yn ddylanwad mewn byd ac eglwys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.