Ganwyd yng Nghaernarfon, lle'r oedd ei dad, y Parch. Howell Hughes, yn gurad. Yn ddiweddarach bu ei dad yn rheithor Trefriw (1833-9) a Rhoscolyn, Môn (1839-48). Ymunodd Henry Bailey ag Eglwys Rufain pan tua 16 oed. Bu yn y Coleg Dominicaidd yn Lisbon ac ar deithiau cenhadol yn Ewrob, Affrica, a'r Unol Daleithiau. Pan ddychwelodd i Gymru sefydlodd ar ynys Sant Tudwal, ar arfordir Llŷn, a bu'n pregethu yn Llŷn ac mewn rhannau eraill o Sir Gaernarfon. Cyfansoddodd emynau a cherddi crefyddol Cymraeg ac ymdrechodd ennill ei gydwladwyr i gofleidio ffydd Eglwys Rufain. Bu farw 16 Rhagfyr 1887.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.