HUGHES, DAVID (bu farw 1609), sefydlydd ysgol ramadeg rydd Biwmares

Enw: David Hughes
Dyddiad marw: 1609
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sefydlydd ysgol ramadeg rydd Biwmares
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Glyn Roberts

Ganwyd ym mhlwyf Llantrisant, sir Fôn. Efallai mai ef ydyw'r David Hughes, o Sir Gaernarfon, a aned yn 1561 ac a aeth o Goleg Magdalen, Rhydychen, i Gray's Inn, 28 Ionawr 1583 (Foster, Alumni Oxonienses, i, 760; Gray's Inn Admission Register, 28 Ionawr 1582-3); y mae, serch hynny, adroddiad arall amdano (a hwnnw wedi ei seilio ar ffynonellau na cheir gafael arnynt erbyn hyn) yn awgrymu iddo gael ei eni c. 1536 ac na chafodd addysg brifathrofaol (John Morgan, David Hughes, Founder of Beaumaris Free Grammar School …, 1883; gweler hefyd Poetical Works of Richard Llwyd, t. 21n). Ymsefydlodd yn sir Norfolk ac apwyntiwyd ef yn stiward maenor Woodrising, c. 1596. Sefydlodd y 'Free Grammar School,' Biwmares, yn 1602. Yn ei ewyllys, sydd wedi ei dyddio 30 Medi 1609, gwaddolodd yr ysgol a gwnaeth ddarpariaeth hefyd i sefydlu elusendy yn Llanerch-y-medd; yn Biwmares, fodd bynnag, yr adeiladwyd yr elusendy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.