Mab Daniel Hughes, Trefilan, Sir Aberteifi. Addysgwyd yn ysgol Ystrad Meurig a Choleg Iesu, Rhydychen, a graddio yn B.A. yn 1806 ac yn M.A. yn 1809. Yn 1805 dechreuodd weithio i Wasg Prifysgol Rhydychen fel un o'r rhai a oedd yn cywiro argraffiad diwygiedig y Beibl Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 1809; yn 1806 etholwyd ef yn ysgolor o Goleg Iesu. Urddwyd ef yn esgobaeth Rhydychen (?) ac yn Rhagfyr, 1808, cafodd ei sefydlu'n rheithor Hirnant, ger Llangynog, ond nid ymddengys iddo drigiannu yno. Yn Nhachwedd 1813 sefydlwyd ef yn rheithor Llanfyllin, a bu yno hyd ei farw, 11 Ebrill 1850. Yn Llanfyllin y claddwyd ef. Sonnir amdano fel cymeriad disglair mewn mathemateg, ac ysgolhaig gwych mewn Hebraeg ac yn y clasuron, a hefyd fel gŵr tra defosiynol. Bu'n un o arholwyr cyhoeddus Prifysgol Rhydychen, 1810-1.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.