HUGHES, HUGH DERFEL (1816 - 1890);

Enw: Hugh Derfel Hughes
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1890
Plentyn: Jane Williams (née Hughes)
Plentyn: Hugh Brython Hughes
Rhiant: Hugh Hughes
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

Ganwyd 7 Mawrth 1816 ym Melin y Cletwr, Llandderfel, Meirionnydd; ei dad Hugh Hughes oedd y melinydd yno hyd 1822, pan symudodd i Landderfel (bu farw yn 1829). Gorfu i'r bachgen wasnaethu ar ffermydd yma ac acw am rai blynyddoedd ond o'r diwedd cafodd le fel pwyswr yn chwarel y Penrhyn, Bethesda, Arfon. Priododd yn 1846 ac ymsefydlu yng nghartref ei wraig ym Mhendinas, Tregarth, lle bu byw hyd ei farwolaeth, 21 Mai 1890; claddwyd ef yn y Gelli. Dechreuodd farddoni 'n gynnar, a hoffai astudio hanes Cymru, hynafiaethau, daeareg, a llysieueg, er na chafodd addysg yn yr un ohonynt. Crwydrodd drwy Gymru i werthu ei lyfr cyntaf, Blodeu'r Gân, 1844, ac ysgrifennodd yn 1845 ddisgrifiad o 'ddull wynebau a chyfansoddiadau' y Cymry enwog a welodd ar ei deithiau (gweler Y Tyddynnwr, i, 296-318). Cyhoeddodd ail gasgliad o farddoniaeth, Y Gweithiwr Caniadgar, yn 1849, gan gynnwys caneuon ei gyfeillion yn ôl arfer yr oes honno. Awdur un garol yw ei frawd, Thomas Hughes, Pendref, Llanfyllin.

Enillodd yng nghyfarfod Henyddol Llandegai ar ' Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid,' a chyhoeddodd ei draethawd yn 1866. Ymhlith ei bapurau, gwelwyd rhan o'i awdl ar ' Chwarel y Cae '; am honno y cafodd gadair eisteddfod Bethesda.

Ei gân orau yw'r ' Cyfamod Disigl,' a gyfansoddodd wrth groesi'r Berwyn â'i bladur ar ei ysgwydd, o'r cynhaeaf yn Sir Amwythig. Aeth y pennill olaf,' ' Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion,' yn rhan o gyfoeth emynau'r genedl. Ei gywydd gorau yw ' Y Bore Olaf.' Yn ei gofiant i'w dad, dyry hefyd gefndir ei fywyd ei hun; gweler Y Traethodydd, 1946, 174-183; 1947, 177-83.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.