HUGHES, EDWARD (1856 - 1925), ysgrifennydd cyffredinol a chynrychiolydd y 'North Wales Miners Association'

Enw: Edward Hughes
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1925
Priod: Elisabeth Hughes (née Hughes)
Plentyn: Hugh Hughes
Rhiant: Maria Hughes
Rhiant: Hugh Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd cyffredinol a chynrychiolydd y 'North Wales Miners Association'
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: George Geoffrey Lerry

Ganwyd 22 Mawrth 1856 yn Trelogan, Sir y Fflint, mab Hugh a Maria Hughes, Ffordd Faen, Trelogan. Gweithiwr ar ffermydd oedd y tad. Yn ei atgofion (sydd heb eu cyhoeddi) dywed Edward Hughes iddo gael yr hyn nas cafodd ei frodyr, sef mynd am dair blynedd i ysgol ym mhentre Trelogan, a sefydlasid trwy ymdrechion blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a oedd yn farsiandwr yn Lerpwl. Yn 1863, yn saith oed, dechreuodd weithio yng nghwaith mwyn Trelogan; yn 12 oed aeth i lofa Mostyn Quay ('Hen Waith'); ac yn ddiweddarach bu'n gweithio yng nglofa Hanmer, Mostyn. Pan oedd yn 19 oed cerddodd i Lerpwl i gael trêen i lofa Durham a bu'n gweithio yng nglofa Easington. Priododd yno, yn 1877, Elisabeth, merch William a Sarah Hughes, Lloc, plwyf Whitford; bu iddynt fab (Hugh) a dwy ferch. Bu streic am 11 wythnos yn Easington, a chymerodd Hughes ran flaenllaw ynddi fel arweinydd y glowyr. Dychwelodd i Trelogan yn 1887 a bu'n gweithio fel glowr yng nglofa Point of Ayr; yno hefyd bu'n arwain y glowyr mewn streic dair-wythnos. Pan ddaeth y streic i ben fe'i dewiswyd yn ' checkweigher ' - y cyntaf i ddal y swydd honno. Dewiswyd ef yn ysgrifennydd ariannol y ' Denbighshire and Flintshire Miners Association ' yn 1891; daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y ' North Wales Miners Association ' yn 1897, ac, yn 1898, yn gynrychiolydd parhaol ac ysgrifennydd yr undeb hwnnw. Symudodd yn 1899 i Wrecsam, lle yr adeiladwyd penswyddfa i'r undeb yn Bradley Road yn 1902. Yn ystod y 27 mlynedd y bu Hughes yn ysgrifennydd yr undeb cododd rhif yr aelodau o 2,732 i 15,229. Etholwyd ef ar bwyllgor gwaith y ' Miners Federation of Great Britain.' Yr oedd yn arweinydd doeth ac fe'i perchid gan y meistri hefyd. Dewiswyd ef yn aelod o gyngor sir Ddinbych yn 1901, a bu'n aldramon o 1907 hyd 1918. Bu farw 10 Mawrth 1925 yn Wrecsam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.