HUGHES, ANNIE HARRIET ('Gwyneth Vaughan '; 1852 - 1910), llenor

Enw: Annie Harriet Hughes
Ffugenw: Gwyneth Vaughan
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1910
Priod: John Hughes
Plentyn: Arthur Hughes
Rhiant: Bennet Jones
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd yn Bryn y Felin, Talsarnau, Meirionnydd, merch Bennet Jones, melinydd, a'i haddysgu yn ysgol Llandecwyn. Priododd, 1876, John Hughes Jones, meddyg o Glwt y Bont, Arfon, ond rhoes heibio'r cyfenw 'Jones.' Bu'n byw yn Llundain, Treherbert, a Clwt y Bont, nes marw ei gŵr yn 1902. Symudodd i Fangor, ac er ei thloted rhoes yr addysg orau i'w phedwar plentyn. Yn 1893-6 sefydlodd 143 cangen o'r ' British Women's Temperance Association,' bu'n ysgrifennydd mygedol y ' Welsh Union of Women's Liberal Association ' am 10 mlynedd, yn un o sefydlwyr ' Undeb y Ddraig Goch ' a ' Cymru Fydd,' ac yn is-lywydd ' An Comunn Gaedhealach ' yr Alban yn 1903. Hi oedd yr unig ferch ar fwrdd gwarcheidwaid Caernarfon a chyngor dosbarth Gwyrfai, 1894-1901. Bu farw 25 Ebrill 1910 ym Mhwllheli, a'i chladdu yn Llanfihangel y Traethau 29 Ebrill. Ymhlith ei gweithiau y mae pedair nofel, (1) O Gorlannau'r Defaid, 1905; (2) Plant y Gorthrwm, 1908; (3) Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (yn Y Brython, 1907-8), (4) Troad y Rhod (yn Y Brython, 1909) (nas gorffennwyd). Golygodd argraffiadau Cymraeg o dri o weithiau Henry Drummond, (1) Y Pennaf Peth yn y Byd, (2) Y Ddinas heb ynddi Sylfeini, a (3) ' Program Cristnogaeth ' (nis cyhoeddwyd). Ceir llawer o'i gwaith, yn rhyddiaith a barddoniaeth, yn Cymru (O.M.E.), Yr Haul, Perl y Plant, Cymru'r Plant, Y Genhinen, Papur Pawb, Y Cymro, Celtia, Celtic Review, Young Wales, etc., o tua 1897 ymlaen a bu'n golygu, ' Colofn y Merched ' yn Yr Eryr, 1894-5, Y Cymro, 1906-7, a'r Welsh Weekly, 1892.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.