HUGHES, HUGH ('Cadfan Gwynedd ' neu ' Hughes Cadfan '; 1824 - 1898), un o'r arloeswyr yn Patagonia

Enw: Hugh Hughes
Ffugenw: Cadfan Gwynedd, Hughes Cadfan
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1898
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o'r arloeswyr yn Patagonia
Maes gweithgaredd: Teithio
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd 20 Awst 1824 ym Môn, yn hynaf o 12 o blant. Gweithiai fel saer coed yng Nghaernarfon yn 1850, symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o brif arweinwyr y mudiad gwladfaol. Traddododd ddarlith, a'i chyhoeddi fel Llawlyfr y Wladfa Gymreig yn 1861. Mentrodd i'r Wladfa gyda'r fintai gyntaf yn 1865, daeth yn aelod o'r cyngor yno, yn ustus heddwch, ac yn llywydd y sefydliad yn 1875. Mabwysiadodd y ffugenw ' Cadfan Gwynedd,' ac adwaenid ef yn y Wladfa fel ' Hughes Cadfan.' Bu farw 7 Mawrth 1898.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.