HUGHES, HUGH JOHN (1828? - 1872), awdur a cherddor yn U.D.A.;

Enw: Hugh John Hughes
Dyddiad geni: 1828?
Dyddiad marw: 1872
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a cherddor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Brynmoel, gerllaw y Bala, Sir Feirionnydd, c. 1828. Ymfudodd i U.D.A. yn 1849 ac ymsefydlu yn Deerfield, talaith Efrog Newydd. Argraffydd ydoedd o ran galwedigaeth; yr oedd hefyd yn gerddor da. Yn 1859 enillodd wobr yn eisteddfod Utica am draethawd ar gerddoriaeth gysegredig; bu hefyd yn ysgrifennu erthyglau i'r Cyfaill (Utica). Cyhoeddodd (1) Y Delyn Aur: sef Casgliad o Hymnau, Tonau … (New York, 1868), (2) Y Drysorfa Gerddorol (Rome, N.Y., 1856-7), (3) Y Gronfa Gerddorol … (New York, 1868?), (4) Traethawd ar Gerddoriaeth Gyssegredig … (Rome, N.Y.), (5) Yr Awen Gymraeg: Pigion o Farddoniaeth Prif Feirdd Gwalia … (New York, 1871), (6) Llyfr Hymnau, Methodistiaid Calfinaidd … (New York, 1871). Bu farw 1 Ionawr 1872 yn Hyde Park, Pa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.