Ganwyd yn Abertawe ym Mai 1850, mab Dafydd ac Elizabeth Hughes. Symudodd ei rieni i Gwmafan, Morgannwg, ac yno y codwyd ef. Dechreuodd bregethu yn 1869, ac addysgwyd ef yn Nhrefeca a Phrifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn M.A. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1877, a bu'n weinidog yn Nowlais, Machynlleth, a Fitzclarence Road, Lerpwl. Bu'n llywydd cymanfa gyffredinol ei gyfundeb yn 1911. Ymneilltuodd i Forgannwg yn niwedd oes; bu farw ym Mhenybont-ar-Ogwr 24 Gorffennaf 1932, a'i gladdu ym Machynlleth. Yr oedd yn bregethwr grymus, yn ysgolhaig rhagorol, ac yn llenor medrus. Ei brif weithiau llenyddol, oedd Rhagtuniaeth Duw mewn Anian ac mewn Hanesyddiaeth, 1886; The Sabbatical Rest of God and Man, 1888; Gwanwyn Bywyd a'i Ddeffroad, 1899; Ysgol Jacob, 1899; a The Christian Consciousness ('Darlith Davies,' 1902). Cyhoeddodd rai cyfrolau o'i farddoniaeth, sef Songs in the Night, 1885; Tristiora, 1896; a Dan y Gwlith, 1911, a gynnwys ei emynau. Cyhoeddodd hefyd ambell gân goffa megis Fy Mam (d.d.), a chyfrol goffa Dr. Hugh Williams, Marwolaeth y Saint, 1905. Ychwaneger esboniad neu ddau ac ysgrifau yn Y Drysorfa a'r Traethodydd, a byddai hynny'n grynodeb llawn o'i gynnyrch llenyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.