Ganwyd 8 Hydref 1858 yn Plough Street, Llanrwst, mab Charles Hughes a'i wraig. Bu yn Ysgol Frutanaidd Llanrwst cyn cael ei brentisio yn ariandy Pugh Jones and Co., lle yr arhosodd am saith mlynedd. Wedi hynny paratôdd ar gyfer gweinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd eithr yn ddiweddarach bu yn Llundain yng ngwasanaeth Kirby and Endean, cyhoeddwyr llyfrau. Yn 1883 priododd Elizabeth, merch Edward Roberts, aelod o ffyrm Hughes a'i Fab, cyhoeddwyr, Wrecsam; ganwyd iddynt saith o blant. Yn 1885 penodwyd ef yn is-olygydd Gwalia, newyddiadur; yn 1888 aeth i Flaenau Ffestiniog yn olygydd newyddiadur arall, sef Y Rhedegydd. Bu am dymor yn llyfrgellydd llyfrgell leol Blaenau Ffestiniog. Yn 1899 penodwyd ef yn olygydd Y Glorian, newyddiadur lleol arall a gyhoeddid ym Mlaenau Ffestiniog; bu hefyd yn golygu cylchgrawn misol, Cyfaill y Plant, a gychwynwyd yn Ionawr 1890 ond a gafodd oes fer yn unig.
' Elfyn ' oedd golygydd cyfansoddiadau buddugol eisteddfod Blaenau Ffestiniog a gynhaliwyd yn 1891, a chyfansoddiadau'r eisteddfod genedlaethol a gynhaliwyd yno yn 1898. Ysgrifennodd lawer i newyddiaduron ac i'r Geninen a Cymru (O.M.E.). Enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau, gan gynnwys y gadair yn eisteddfod genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898 (testyn: 'Yr Awen'). Cyhoeddwyd detholiad o'i waith barddonol dan y teitl, Caniadau Elfyn : efe hefyd ydyw awdur Hanes Bywyd Capelulo a gynhwyswyd gan Syr Owen M. Edwards yn ' Cyfres y Fil.' Bu farw 14 Mehefin 1919 a chladdwyd ef ym mynwent Llan Ffestiniog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.