Ganwyd 31 Gorffennaf 1861 yn Aberllefenni, Meirionnydd, mab ieuengaf Robert Hughes, goruchwyliwr chwarel. Addysgwyd ef yn ysgol yr Eglwys, Corris, ac yn ysgol ramadeg Dolgellau. Prentisiwyd ef yn ddilledydd yn Nolgellau, ond dychwelodd i chwarel Aberllefenni yn glerc. Cychwynnodd ar ei yrfa feddygol gyda'r Dr. J. Jones, Corris, a phan oedd yn 18 oed aeth i Brifysgol Edinburgh. Bu'n llwyddiannus iawn yno, ac yn 1884, penodwyd ef yn arddangosydd mewn Anatomy a Histology. Treuliodd beth amser yn Leipzig a Llundain yn perffeithio'i addysg. Graddiodd yn 1885, ac, yn 1889, gwnaed ef yn F.R.C.S., Edinburgh, anrhydedd a ddaeth iddo eilwaith, yn 1891, oddi wrth Goleg Llawfeddygon Lloegr. Yn 1887 ymsefydlodd yn Fflint fel meddyg, ond dwy flynedd yn ddiweddarach dychwelodd i Edinburgh fel athro yn y Coleg Meddygol. Bu yno hyd 1893, pan benodwyd ef yn athro yn yr adran feddygol o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, ac, yn 1897, yn athro yn King's College, Llundain. Gwnaeth gyfraniadau pwysig ar anatomeg i gylchgronau meddygol.
Yn ystod rhyfel De Affrica bu Hughes yn gyfrifol am sefydlu a threfnu ysbyty Cymreig yn Ne Affrica, a phan fu farw nifer o swyddogion yr ysbyty aeth yntau allan i arolygu'r gwaith. Ar ei ffordd adref ymaflodd y dwymyn enteric ynddo a bu farw 3 Tachwedd 1900, yn ei gartref yn Llundain. Claddwyd ef ym mynwent Corris. Bu'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, ac ymgeisiodd fel Ceidwadwr dros Arfon yn 1895.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.