Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd 13 Hydref 1813, mab Edward ac Elizabeth Humphreys, Glyndu, Llangynog, Sir Drefaldwyn. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1840, ac ordeiniwyd ef yn 1848; bu am ychydig yn athrofa'r Bala. Yr oedd yn ŵr hynaws ac yn bregethwr cymeradwy. Priododd chwaer Humphrey Evans, blaenor yn Llanrhaeadr Mochnant, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd yn saer coed medrus, a llwyddodd yn ei fasnach. Efe a roddodd dir i adeiladu yr ysgoldy Brutanaidd a chapel Bethesda yn y Llan. Yr oedd yr elfen farddonol yn y teulu. Bardd gwych oedd ei frawd - ' Iorwerth Cynog.' Er i David Humphreys ysgrifennu llawer o farddoniaeth ni chyhoeddwyd ond ' Babel gwympa,' emyn dirwestol. Bu farw 25 Gorffennaf 1866.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.