Ganwyd yn Nhrefaldwyn, chweched plentyn Charles Gardiner Humphreys, cyfreithiwr. Addysgwyd ef yn ysgol Amwythig ac yna aeth at William Pugh, Caerhywel, Trefaldwyn. Yn ddiweddarach aeth i swyddfa cyfreithiwr o'r enw Yeomans yng Nghaerwrangon. Ym mis Tachwedd 1887 aeth i Lundain. Aeth yn ddisgybl i Charles Butler, ac fe'i cofrestrwyd yn Lincoln's Inn. Derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr ar 25 Mehefin 1800, a daeth yn llwyddiannus iawn fel ' conveyancer.' Yr oedd yn Rhyddfrydwr ac yn gyfeillgar â Fox, Syr James Mackintosh, Syr Francis Burdett, a Horne Tooke. Ei brif waith oedd Observations on the actual State of the English Laws of Real Property, with the outlines of a Code (Llundain 1826, ail arg. 1827). Daeth y gwaith hwn ag ef i fri fel diwygiwr ym myd y gyfraith, ac yn ddiweddarach mabwysiadwyd llawer o'r cyfnewidiadau a awgrymai. Bu farw 29 Tachwedd 1830 yn Upper Woburn Place, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.