HUMPHREYS, RICHARD MACHNO (1852 - 1904), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Richard Machno Humphreys
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1904
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 14 Mawrth 1852, mab i ŵr o Helygen a briododd ferch o Dalybont. Brawd iddo oedd Benjamin Humphreys, Felinfoel. Wedi treulio blynyddoedd ym mwyngloddiau Talybont, aeth i Dylife, lle y dechreuodd bregethu, eithr o lofa yn y Gilfach Goch, Morgannwg, yr aeth i Goleg Llangollen yn 1875. Gweinidogaethodd yn Siloam, Caerdydd (1877-84); Rhosddu, Wrecsam (1884-91); a Chalfaria, Llanelli (1891-1904). Cwmnïai â phrydyddion, a rhigymai er yn llanc. Enillodd gadeiriau yn Wrecsam (1884), Rhosllanerchrugog (1887), Castellnewydd Emlyn (1888), Pontyberem (1901), Felinfoel (1901), a'r goron yn eisteddfod genedlaethol y Rhyl (1904) am bryddest ar ' Tom Ellis.' Efe oedd golygydd Cymraeg y Llanelly Mercury. Bu farw 30 Tachwedd 1904.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.