HUWS, WILLIAM PARI (1853 - 1936), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: William Pari Huws
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1936
Plentyn: G. Pari Huws
Rhiant: William Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 27 Medi 1853 ym Mhenrhyndeudraeth, mab ‘Gwilym Prysor,’ gŵr diwylliedig o lenor a bardd. Symudodd y teulu i Ddolwyddelan, ac yno y magwyd ef a'i frodyr, y Parchn. G. Parry Hughes (Methodistiaid Calfinaidd), Morfa Nefyn, a Rowland Hughes, Caerdydd. Wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio yn chwarelau Blaenau Ffestiniog am ysbaid cyn myned i ysgol Llanrwst, o'r lle yr aeth i Goleg (A.) y Bala, 1874. Yn 1877 aeth am gwrs ychwanegol i Brifysgol Yale, America, a graddiodd yn B.D. yno yn 1880. Dychwelodd i Gymru a chafodd alwad i fugeilio eglwysi Beulah a Brynmair, Sir Aberteifi; urddwyd ef yno yn 1882. Daeth yn fuan i amlygrwydd mawr fel dirwestwr pybyr, a chyda'i gymydog, y Parch. David Adams, Hawen, cychwynnodd fudiad a greodd gynnwrf mawr trwy'r sir. Yn 1887 symudodd i ofalu am eglwysi Bryn Bowydd a Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog, ac yn 1895 i'r Tabernacl ac Islaw'r Dref, Dolgellau. Ymneilltuodd yn 1926, bu farw yng nghartref ei fab, Dr. G. Pari Huws, Hen Golwyn, 10 Chwefror 1936, a chladdwyd ef ym mynwent capel y Brithdir, Dolgellau.

Un o gedyrn gweinidogaeth Ymneilltuol ei gyfnod, llenor a bardd gwych, enillodd amryw gadeiriau eisteddfodol, a sicrhaodd iddo'i hun enw fel emynydd. Bu'n cydolygu Blwyddiadur ei enwad am 21 mlynedd, a'r Dysgedydd, 1915-8. Golygodd lyfryn o'r enw Gemau Gwalia, casgliad o weithiau prifeirdd, a chydolygodd Cofiant y Parch. David Adams, B.A., D.D. Yn 1930 cyhoeddodd gyfrol o'i waith, Mam yr Iesu, a Darnau Eraill. Ef oedd ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr 1897-9 a'i gadeirydd 1923-4, a bu am dair blynedd ar gyngor sir Meirion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/