IORWERTH ap BLEDDYN (bu farw 1111)

Enw: Iorwerth ap Bleddyn
Dyddiad marw: 1111
Rhiant: Bleddyn ap Cynfyn
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Bleddyn ap Cynfyn a chydreolwr Powys yn niwedd yr 11eg ganrif. Fel un o wŷr gwrogaeth Robert o Montgomery bu iddo ran yng ngwrthryfel 1102. Gan iddo wrthgilio methodd y gwrthryfel, ac wedi iddo fethu cael y cwbl o etifeddiaeth Montgomery yng Nghymru, fel y disgwyliai gael, parodd gryn helynt i'r Goron a chafodd ei garcharu yn 1103. Fe'i rhyddhawyd yn 1110 er mwyn iddo allu delio â'i neiaint, a lladdwyd ef gan un o'r perthnasau ieuainc hyn, sef Madog ap Rhiryd, y flwyddyn ddilynol. Ni bu iddo ddisgynyddion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.