Ganwyd 12 Mai 1857, trydedd ferch Evan a Hannah Jacob, Llether-neuadd-uchaf, Llanfihangel Iorath, Sir Gaerfyrddin. Ym mis Chwefror 1867 bu mewn llewyg am fis cyfan, a phan ddadebrodd ni chymerodd ond ychydig o fwyd llaeth. Erbyn 10 Hydref 1867 dywedid iddi beidio â bwyta nac yfed dim, a honnid iddi fyw felly hyd ei marw, 17 Rhagfyr 1869 - 113 wythnos. Lledodd hanes ei hymprydio ar draws y wlad, a daeth yn bwnc trafodaeth ymysg meddygon blaenllaw. Deuai pobl o bell ac agos i weld yr eneth, gan roddi anrhegion iddi. Wedi llawer iawn o ddyfalu a dadlau gyrrwyd staff o nyrsus o ysbyty Guy, Llundain, i'w gwylio, ac ymhen ychydig dros wythnos bu'r ferch farw. Cyhuddwyd ei rhieni o ladd eu merch drwy beidio â rhoddi bwyd iddi, a dedfrydwyd hwynt i garchar.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.