Ganwyd 24 Tachwedd 1760 o rieni cefnog ym Mhen-blaen, Aberedw, sir Faesyfed. Ymunodd â'r Methodistiaid yn ieuanc yn erbyn ewyllys ei rieni, a dechreuodd bregethu yn 1782. Addysgwyd ef yn Nhrefeca, a gwnaeth ei drigias yno am saith mlynedd ar ôl ei ordeinio. Yr oedd yn un o'r rhai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Yr oedd yn bregethwr nerthol yn y ddwy iaith, a gwasnaethai'n aml yng nghapel Philip Oliver, Caer. Yn ei flynyddoedd canol aethai'n rhy dew i deithio, a derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Annibynnol Heol y Castell, Abergafenni, yn 1818. Bu farw 10 Ebrill 1831.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/