JAMES, JAMES ('Iago Emlyn '; 1800 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd

Enw: James James
Ffugenw: Iago Emlyn
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1879
Priod: Jane James (née Mince)
Rhiant: Mary James
Rhiant: David James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awduron: Griffith Milwyn Griffiths, Marion Löffler

Ganwyd ym mhlwyf Bettws Ifan, ger Aberteifi ym 1800, yn fab i David a Mary James. Erbyn Tachwedd 1809, bu farw'r rhieni, a gofalwyd amdano gan ei famgu yn Dinas, ger Castellnewydd Emlyn. Bu am rai blynyddoedd yn fasnachwr mewn amryw leoedd, yn eu plith Bryste.

Yn 1840 aeth i goleg diwinyddol Caerfyrddin, a bu'n bugeilio eglwysi yn Llanelli, Caerdydd, Casnewydd, a Portishead. Collodd ei iechyd ac ymneilltuodd i fyw yn Clifton, Bryste, ble, ar 4ydd Mawrth 1844, y priododd Jane Mince yn Eglwys Plwyf Clifton. Yn ôl cyfrifiad 1861 bu'n cadw tŷ llety yn 14 Frederick Place, Clifton, gyda'i wraig, ond ym 1871, dim ond ei wraig a'i chwaer ddi-briod, Maria Mince, recordiwyd o dan y cyfeiriad hwn. Bu farw 5 Ionawr 1879 a chladdwyd ef ym Mryste.

Yr oedd yn ysgolhaig medrus, ac yn fardd o gryn fri. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth yn 1848 dan y teitl, Cyfansoddiadau Buddugol a Cherddi Ereill, cyfrol arall yn 1863, Gweithiau Barddonol Iago Emlyn, a thraethawd, The Philosophical Construction of Celtic Nomenclature … yn 1869.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.