Ganwyd 11 Hydref 1793, hwyrach yng Ngogledd Cymru. Ymfudodd i America gyda'i rhieni yn 1800. Ymsefydlodd y teulu yn Clinton, Efrog Newydd a threuliodd hi ei hun y rhan fwyaf o'i bywyd, o 10 mlwydd oed ymlaen, fel morwyn. Dangosodd gryn allu i gyfansoddi barddoniaeth, a chyhoeddwyd casgliad o'i gwaith dan olygyddiaeth A. Potter yn Efrog Newydd yn 1839 dan y teitl, Wales and other Poems. Bu farw 11 Medi 1868 yn Rhinebeck, Efrog Newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.