JAMES, THOMAS (1834 - 1915), athro ysgol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas James
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1915
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro ysgol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Ferwig gerllaw Aberteifi, yn fab i of a oedd yn Eglwyswr, ond Methodist oedd ei fam. Tua'r 20 oed, â'i fryd ar y weinidogaeth, aeth i ysgol ym Mlaenannerch, ac oddi yno (1858) i Drefeca. Yn 1862, enillodd un o ysgoloriaethau'r Dr. Daniel Williams, ac aeth i Brifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn 1866; bu wedyn am rai misoedd yn Edinburgh. Dychwelodd yn 1867 i Gymru; ordeiniwyd ef yn fugail ar achos (bychan iawn) y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandysul, yn 1868, ac agorodd ysgol yno; daliodd at honno hyd 1894, pan oedd yn 60 oed. Bu farw 6 Medi 1915, a chladdwyd ym mynwent yr Annibynwyr, ar gyfer ei dŷ yn Llandysul. Nid oedd yn bregethwr poblogaidd; nid oedd ganddo fawr ddim gwaith bugeilio; ychydig dros ben a sgrifennodd. Naws ysgolhaig oedd ynddo; yr oedd ei wybodaeth o'r ieithoedd clasurol, o'r Hebraeg ac o'r Almaeneg, yn drwyadl. Yn herwydd ei ysgol, yn bennaf, y mae lle iddo yn y gyfrol hon. Bu'n athro llwyddiannus dros ben, a hynny mewn ardal sy'n enwog am ei thraddodiad o ysgolion ac athrawon. Aeth nifer mawr o wŷr a fu wedyn yn adnabyddus iawn i ' ysgol Tomos Jâms,' a sonnir amdani yng nghofiannau gweinidogion o bob enwad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.