JAMES, WILLIAM (1761 - 1845), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: William James
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1845
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Abersŵn, Llanllwni, ar Sul y Blodau, 1761. Ymaelododd yn Rhyd-y-bont, a dechreuodd bregethu 'n ifanc. Bu'n cadw ysgol yng Nglyn Tawe, yna (1785-9) aeth i academi 'Caerfyrddin,' a drigai ar y pryd yn Abertawe. Yna urddwyd ef yn weinidog eglwysi Watford a Chaerdydd (Trinity); yn ffermdy Ysguborwen yr oedd yn byw. Tua 1826 perswadiwyd ef i symud i'r dre, gan roi Watford (a'r fferm) i fyny. Bu farw 26 Chwefror 1845, yn 84 oed. Ni bu fawr lwyddiant ar ei weinidogaeth - yr achos, mae'n debyg, oedd meithder anarferol ei bregethau, a amrywiai o awr a hanner i ddwy awr a hanner.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.