Ganwyd 1 Ionawr 1845, ail fab John Jayne o Bant-y-beiliau, sir Frycheiniog, ac Elizabeth ei wraig. Addysgwyd yn ysgol Rugby a Choleg Wadham, Rhydychen. Yno graddiodd B.A. yn 1868 â'r anrhydeddau uchaf, a chymryd ei M.A. yn 1870. Enillodd hefyd rai o wobrau'r brifysgol. Gwnaethpwyd ef yn gymrawd o Goleg Iesu, 1868, urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yn 1870, a phenodwyd ef yn athro yng Ngholeg Keble yn 1871. Yn 1879 aeth yn brifathro i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, a bu yno saith mlynedd, cyn ei ddewis yn ficer Leeds ac yna'n esgob Caer. Ymddeolodd o'r esgobaeth yn 1919. Priododd, 1872, Emily, merch W. J. Garland (gweler A. G. Edwards) a bu iddynt dri mab a thair merch. Bu farw yng Nghroesoswallt 23 Awst, a'i gladdu yn Bowdon, sir Gaerlleon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/