Ganwyd 30 Rhagfyr 1848 yn Trecastell, sir Frycheiniog. Gan iddo golli ei dad pan nad oedd ond bachgen ieuanc ni chafodd fawr o fanteision ym more ei oes. Prentisiwyd ef yn deiliwr, eithr dangosodd yn bur fuan mai ar gerddoriaeth yn unig yr oedd ei fryd. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i deimlo brwdfrydedd dros gyfundrefn y tonic-solffa, ac er na chafodd addysg ffurfiol mewn cerddoriaeth dangosodd yn fuan fod ganddo dalent arbennig fel cyfansoddwr. Yn 1874 daeth i Goleg Aberystwyth i astudio o dan Dr. Joseph Parry; graddiodd yn Mus. Bac. (Prifysgol Caergrawnt) yn 1878. Yn gynnar wedi i Brifysgol Cymru gael ei siarter (1893) dewiswyd Jenkins yn ddarlithydd yn adran newydd cerddoriaeth yng Ngholeg Aberystwyth; daeth yn athro cerdd yn 1910 a daliodd y gadair hyd ei farw.
Yn ystod ei gyfnod proffesiynol cyhoeddus daeth Jenkins yn ŵr adnabyddus yn yr eisteddfod genedlaethol ac eisteddfodau eraill; yr oedd yn neilltuol gymeradwy fel arweinydd cymanfaoedd canu. Yr oedd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth gysegredig yn ddwfn a diffuant, a gwnaeth ei ddylanwad ar ganiadaeth cynulleidfaol lawer i ddyrchafu chwaeth y cyhoedd. Gellir dywedyd yn ddibetrus fod rhai o'i donau wedi ymdreiddio i galon caniadaeth gysegredig Cymru ac y bydd iddynt fyw.
Cyfansoddodd lawer iawn. Y mae ei waith cyhoeddedig yn cyrraedd o'r pethau bychain lleisiol i faes ehangach y gantata a'r oratorio. Ymhlith ei ddarnau corawl mwyaf adnabyddus y mae ' Arch y Cyfamod,' ' Job,' ' Yr Ystorm,' a ' The Psalm of Life '; ysgrifennwyd yr olaf ar gyfer ffestifal dair-blynyddol Caerdydd, 1895, a chafodd ei berfformio yr un flwyddyn gan 2,000 o leiswyr yn y Plas Grisial, Llundain. Ysgrifennai'n aml i'r Wasg Gymreig a bu'n golygu Y Cerddor am flynyddoedd lawer. Bu farw yn ei gartref, Castell Brychan, Aberystwyth, 10 Rhagfyr 1915.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.