Ganwyd yn Nhan-y-chwarel, Cwmystwyth, 2 Tachwedd 1859, cofrestrwyd yn Llanbedr-pont-Steffan, 3 Rhagfyr 1859. Ei dad oedd John Jenkins, mwynwr plwm, a'i fam oedd Mary, gynt Howells.
Yn ifanc aeth yn brentis dilledydd at John Lloyd, Pentre, Rhondda; ymaelododd yn Nazareth, ac yno y dechreuod bregethu. Addysgwyd ef yn ysgol William James, Canton, Caerdydd, academi Pontypridd, a Choleg Trefeca. Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Aberystwyth, 1887. Bugeiliodd eglwysi Caerffili, Spellow Lane (S.), Lerpwl, Ceinewydd, Salem (Dolgellau), Garregddu (Ffestiniog), a Llanymddyfri. Bu farw 27 Ebrill 1929, a chladdwyd ef ym mynwent capel Cwmystwyth. Yr oedd yn gyfrwng amlwg yn niwygiad 1904-5.
Llosgfynydd o bregethwr ydoedd - ar adegau yn ddi-fywyd, ac ar adegau yn hylif eirias; fel personoliaeth a phregethwr yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/