JENKYN, THOMAS WILLIAM (1794 - 1858), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas William Jenkyn
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1858
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 1794, ei dad yn hanfod o Lanymddyfri a'i fam o blwyf Llandeilo Fawr. Yr oedd pedwar o frodyr ei fam yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr. Dechreuodd bregethu yn 1808 yn Soar, Merthyr, ac adnabyddid ef fel y 'boy preacher.' Bu dan addysg yn y Fenni a bu'n cadw ysgol ei hunan am gyfnod yn y Faenor, ger Merthyr. Oherwydd amgylchiadau cyfyng ei rieni gorfu iddo fyned i weithio i waith glo Penydarren. Âi i ysgol nos a dysgodd Saesneg yn ysgol Sul y Wesleaid Saesneg ym Mhontmorlais. Aeth yn genhadwr cartrefol i Ludworth a chafodd beth ysgol yno hefyd.

Trwy garedigrwydd cyfeillion aeth i Goleg Homerton, Llundain, ac arhosodd yno bedair blynedd. Cafodd alwad i eglwys Annibynnol Wem, Swydd Amwythig, ac wedi pum mlynedd symudodd i Groesoswallt. Traddododd yno gyfres o ddarlithiau ar yr Iawn a dynnodd gryn sylw, a chyhoeddwyd hwynt yn llyfr a aeth drwy amryw argraffiadau ac un yn Gymraeg. Yn 1834 symudodd i Stafford; yno cyhoeddodd lyfr ar yr Ysbryd Glân. Oherwydd afiechyd gorfu iddo ymadael oddi yno ac aeth i'r Almaen a daeth yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Halle, lle'r oedd Tholuck a Gesenius yn athrawon. Gwahoddwyd ef i gadair diwinyddiaeth yng Ngholeg Coward, Prifysgol Llundain. Yn 1850, oherwydd uno'r coleg â cholegau eraill, symudodd i Rochester ac yno y bu hyd ei farwolaeth ar 26 Mai 1858. Ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Popular Educator (Cassell) a'r Quarterly Review.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.