Ganwyd 28 Hydref 1782 yn ffermdy Cwmynys, gerllaw Caerfyrddin. Bu yng Ngholeg Annibynnol Wrecsam (1803, am dymor byr); Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin (1804-8); yn ysgolfeistr yn Llanybri; yn athro teulu yn Saethon, Llŷn; ac yn weinidog eglwys Annibynnol Salem, Llanymddyfri (ordeiniwyd 20 Ebrill 1815). Cyfnewid araf o Galfiniaeth at Undodiaeth a fu ei hanes. Gweler ysgrif arno gan ei fab, y Parch. D. D. Jeremy, yn Ymofynydd 1897, 349 .
Wedi iddo briodi â gweddw y Parch. Evan Davies, Caeronnen, daeth yn weinidog Caeronnen (1819-46) a'r Cribin (1819-22). Pregethodd yn gyson, heb fugeiliaeth arall, hyd ei farw, a bron hyd y diwedd bu'n cadw ysgol.
Bu farw 15 Tachwedd 1860. Claddwyd ym mynwent plwyf Llanbedr-Pont-Steffan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.