JOHN, GRIFFITH (1831 - 1912), cenhadwr

Enw: Griffith John
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1912
Priod: Jenkins
Priod: Jane John (née Griffiths)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd 14 Rhagfyr 1831 yn Abertawe. Daeth yn aelod yn Ebenezer, eglwys yr Annibynwyr, Abertawe yn 1840. Cafodd ei addysg yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, ac yn Bedford. Fe'i cynigiodd ei hun i faes y genhadaeth ym Madagascar, eithr fe'i cyfeiriwyd i weithio yn China. Priododd Jane, merch David Griffiths, cenhadwr ym Madagascar. Ordeiniwyd ef yn Ebenezer, Abertawe, 5 Ebrill 1855, a chyrhaeddodd Shanghai ym mis Medi y flwyddyn honno. Yn 1857 ymwelodd â Soochow, plannodd orsafoedd yn Sung Kiang, a sefydlodd orsaf barhaol yn Hankow. Yn ystod 1868 trafaeliodd 3,000 o filltiroedd yn teithio trwy'r taleithiau. Bu ei wraig farw pan oedd hi'n dychwelyd o Loegr yn 1873. Priododd eilwaith yn 1874, y tro hwn â Mrs. Jenkins, gweddw cenhadwr; bu hi farw yn 1885.

Yr oedd Griffith John yn gadeirydd y Central China Tract Society ac yn awdur llawer o draethodau poblogaidd. Yn 1885 cyhoeddodd fersiwn o'r Testament Newydd yn nhafodiaith Wen-li. Etholwyd ef yn llywydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru yn 1888, eithr gwrthododd dderbyn yr anrhydedd hwnnw. Rhoes Prifysgol Edinburgh radd D.D. iddo yn 1889.

Dathlodd ei jiwbili fel cenhadwr yn 1905 yn Hankow. Oblegid afiechyd bu raid iddo adael China am dymor, eithr dychwelodd yn 1907. Yn 1912 daeth i Loegr, a bu farw yn Llundain 25 Gorffennaf; claddwyd ef yn Sgeti, Abertawe. Ysgrifennodd A Voice from China a llyfrau eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.