Ganwyd 20 Ebrill 1834 yn Poole, Dorset. Ymsefydlodd yng Nghasnewydd-ar-Wysg yn 1835, a sefydlodd The Newport Gazette yn 1857. Cychwynnodd newyddiadur prynhawnol cyntaf sir Fynwy - The Evening Telegraph (y papur newydd prynhawnol dimai cyntaf yn Ne Cymru) yn 1870; cyhoeddodd a golygodd hefyd The Star of Gwent and South Wales Times a'r Evening Star of Gwent. Ysgrifennai erthyglau ar bynciau hynafiaethol a hanesyddol i'w newyddiaduron ac ail-gyhoeddwyd rhai o'r rhain yn llyfrau - Chartist Riots at Newport, 1839 (1884, ail arg. yn 1889), Historical Facts and Traditions relating to Newport and Caerleon (chwe rhan, 1880-5), History of the Church of S. Gwynllyw, 1891; John's Household Almanack and Guide to Local Information, 1857, 1858, 1860-70, 1896, 1898, a Newport Directory and Year Book, 1885. Bu farw 11 Mawrth 1898 yng Nghasnewydd-ar-Wysg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.