Yr oedd yn un o gefnogwyr mân eisteddfodau Powys yn ei gyfnod. Enillodd ail wobr ar brif destun eisteddfod Llansantffraid Glyn Ceiriog yn 1743; dywedir i'w fab, Peter Jones, gymryd rhan yn yr un eisteddfod pan nad oedd ond 13 oed. Erys nifer o'i gerddi mewn llawysgrifau, a cheir rhai ohonynt ymhlith casgliadau a gyhoeddwyd yn y 18fed ganrif. Ceir un enghraifft, o leiaf, o'i ganu caeth, sef dau englyn i'r meddyg Richard Lloyd o Lanfyllin (NLW MS 6729B ).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.