Ganwyd yn Rhiwabon, a'i fedyddio 16 Gorffennaf 1827, unig fab a phumed plentyn John Jones (curad Rhiwabon 1819-30, a rheithor Llangwm 1830-72) a Charlotte Harriett ei wraig. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, Ebrill 1847, a graddio'n B.A. yn 1851 ac yn M.A. yn 1853. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Bethell o Fangor, 21 Rhagfyr 1851, a'i drwyddedu i guradiaeth Heneglwys a Threwalchmai ym Môn. Cynigiwyd iddo fywoliaeth Llangorwen, ger Aberystwyth, yng ngwanwyn 1852, ond nis derbyniodd; cafodd urddau offeiriad 19 Rhagfyr 1852. Ar 18 Gorffennaf 1857 sefydlwyd ef yn ficer Llanegryn, Meirionnydd, a bu yno hyd 1872, pryd y sefydlwyd ef yn ficer Eglwys Fair, Caerdydd, 27 Chwefror. Bu yno hyd 1903, pryd yr ymddeolodd. Bu farw 22 Medi 1906, a'i gladdu yng Nghaerdydd. Yr oedd yn y coleg yn nyddiau cynnar Mudiad Rhydychen, ac ymroes heb ei arbed ei hun i ledaenu, yn ystod ei weinidogaeth, athrawiaeth ac arferion y mudiad hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.