JONES, CADWALADR (1794 - 1883), saer maen a cherddor

Enw: Cadwaladr Jones
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1883
Rhiant: Cathrin Cadwaladr Jones
Rhiant: John Cadwaladr Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: saer maen a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Talgruffydd, ger Castell Prysor, Trawsfynydd, yn 1794, mab John a Cathrin Cadwaladr Jones. Cymerodd at ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc, a cherddai o Drawsfynydd i Fangor i gael gwersi gan Dr. Pring, organydd yr eglwys gadeiriol. Yr oedd yn chwaraewr da ar y ffidil. Bu'n arwain y canu yn eglwys Trawsfynydd am 50 mlynedd, a phan aeth ei lais yn grynedig, cymerai ei ffidil i arwain y canu. Bu ganddo gôr dirwestol yn Nhrawsfynydd, a gwnaeth wasanaeth gwerthfawr fel athro dosbarthiadau cerddorol yn y cylch. Cyfansoddodd amryw donau ac anthemau. Yr oedd yn ddall ym mlynyddoedd olaf ei oes. Bu farw 3 Ionawr 1883, ym Mrynrwy, Trawsfynydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.