JONES, DAFYDD ('Dafydd Siôn Siâms '; 1743 - 1831), cerddor, bardd, a llyfr-rwymwr

Enw: Dafydd Jones
Ffugenw: Dafydd Siôn Siâms
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1831
Priod: Jane Jones (née Hugh)
Priod: Elisabeth Jones (née Thomas)
Rhiant: Gwen James
Rhiant: John James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor, bardd, a llyfr-rwymwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Bedyddiwyd 5 Mai 1743 yn eglwys Llandanwg, Sir Feirionnydd, mab John a Gwen James. Bu'n byw ym Maentwrog, lle y priododd ei wraig gyntaf, ac ym Mhenrhyndeudraeth (lle yr adeiladodd dy a'i alw'n ' Llundain'). Gofalai am y canu yn eglwys plwyf Llanfrothen ac âi o gwmpas i eglwysi eraill i ddysgu cantorion. Dywedir iddo adael yr Eglwys gan ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd, a gofalu am y canu yn y capel a adeiladwyd gan yr enwad hwnnw yn ei ardal. Ceir trefniant o ddwy dôn o'i waith ' Iago ' a ' Digonolrwydd ' - yn Caniadau y Cysegr; priodolir y dôn ' Priscilla ' hefyd iddo. Yn 1769 yr oedd yn ysgolfeistr; gwyddys iddo fod yn cadw ysgol yn Beddgelert am gyfnod.

Y mae iddo beth pwysigrwydd fel bardd gan ei fod yn ddolen gydiol rhwng hanner olaf y 18fed ganrif a chwarter cyntaf y ganrif ddilynol. Canodd yn y mesurau caeth, eithr carolau (carolau 'plygain,' 'tan bared,' etc.) a cherddi ydyw y rhan fwyaf o'i waith; canodd hefyd ar destunau rhai o eisteddfodau ei gyfnod ac ysgrifennodd rai emynau. Y mae o leiaf saith o lawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys ei waith, rhai ohonynt yn ei lawysgrifen ef ei hun; y mae'n hoff o'i alw ei hun yn ' Dafydd Jones ' neu ' Dafydd Sion James Book Binder o'r Penrhyndeudraeth.' Canodd farwnad ei wraig gyntaf, Elisabeth Thomas, yn 1786, ac un ei ail wraig, Jane Hugh, yn 1796. Bu ef farw ar 30 Mawrth 1831, a chladdwyd ef ym mynwent capel Nazareth, Penrhyndeudraeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.