Ychydig a wyddys am ei eni a'i ieuenctid. Rhoddir enw ei dad fel Siôn ap Dafydd yn N.L.W. MSS. 476 a 3107, ac enw ei fam fel Jane ferch Elizabeth Rowland yn B.M. Add. MS. 14888, a Jane ferch Dafydd ap Sion yn N.L.W. MS. 3107. Enw ei wraig oedd Gwen ferch Richard ap Rhys (N.L.W. MS. 3107), ond ni wyddys dyddiad y briodas; ceir yng nghofrestri plwyf Trefriw gofnod am briodas rhwng rhyw David Jones a Gwenna Prichard ar 27 Ionawr 1734-5.
Fel bardd ysgrifennodd gryn dipyn, ond nid enillodd fri mawr. Ei brif bwysigrwydd yw fel golygydd y flodeugerdd o farddoniaeth a elwir Blodeu Gerdd Cymry, sef Casgliad o Caniadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiwaethaf, 1759. Golygodd hefyd weithiau fel Histori Nicodemus, 1745, hen gyfieithiad Cymraeg o'r ' Gospel of Nicodemus,' Egluryn Rhyfedd, 1750, a Cydymaith Diddan, 1766, y ddau olaf yn gasgliadau o farddoniaeth a rhyddiaith. Yr oedd yn ddiwyd iawn hefyd fel casglwr hen lawysgrifau Cymraeg, a cheir ffrwyth ei lafur yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ddiweddarach yn ei fywyd daeth gwasg argraffu i'w feddiant, ac ymsefydlodd fel argraffydd yn Nhrefriw. Dechreuodd argraffu yn 1776, a'r gwaith mawr cyntaf a ddaeth o'i wasg oedd Historia yr Iesu Sanctaidd yn 1776, cyfieithiad Cymraeg o'r ' History of the Holy Jesus ' gan William Smith. Parhaodd i argraffu hyd ei farwolaeth, 20 Hydref 1785.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/