JONES, EDWARD (1778 - 1837), 'Edward Jones, Bathafarn,' gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleyaidd

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1837
Priod: Dorothy Jones (née Roberts)
Rhiant: Anne Jones
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleyaidd
Cartref: Bathafarn
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Albert Hughes Williams

Ganwyd 9 Mai 1778 yn Rhuthyn, y pumed o chwe phlentyn Edward ac Anne Jones, eithr yn fferm Bathafarn, Llanrhydd, y magwyd ef. Wedi iddo gael ei addysg yn ysgol Rhuthyn aeth i Manchester, c. 1796, i weithio mewn gwaith cotwm. Cafodd ei argyhoeddi o werth Wesleyaeth o dan bregethu y Parch. George Marsden ac aeth adref ym mis Rhagfyr 1799, a ffurfio soseieti Wesleyaidd yn Rhuthyn yn gynnar yn 1800. Aeth i weinidogaeth y Methodistiaid Wesleaidd yn 1802 ac am 15 mlynedd bu'n 'teithio' yng Nghymru. Yn 1817 trosglwyddwyd ef i'r gwaith Seisnig a bu'n llafurio mewn cylchdeithiau Seisnig (yn cynnwys Wrecsam a Hwlffordd) hyd ei farwolaeth yn Leek, 26 Awst 1837; claddwyd ef o flaen capel Wesleaidd Leek. Yr oedd wedi priodi Dorothy Roberts, Plas Llangwyfan, 4 Gorffennaf 1806, yn Biwmares; bu iddynt o leiaf bump o blant. Efallai i ran Edward Jones yn sylfaenu Wesleaeth Gymraeg gael ei phwysleisio ormod; y mae'n ddiamau iddo, serch hynny, ddylanwadu mewn rhyw fodd yn anuniongyrchol ar Gyngres y Wesleaid yn 1800. Pa fodd bynnag am hynny, lleinw le pwysig yn hanes cynnar yr enwad yn rhinwedd ei waith fel arloeswr yn Rhuthyn a'r cyffiniau cyn i'r genhadaeth Gymraeg gael ei chreu ac oblegid ei lafur diflino fel gweinidog Cymraeg. Er nad oedd yn bregethwr mawr yr oedd yn gwbl lwyddiannus; yr oedd ei anian dawel a'i ddiffuantrwydd yn peri bod llawer yn ei hoffi; ac ni fu iddo hepgor nac ynni nac arian er mwyn hyrwyddo'r achos a oedd mor agos at ei galon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.