JONES, EDWARD ('Iorwerth Ceitho '; 1838? - 1930), saer ac eisteddfodwr

Enw: Edward Jones
Ffugenw: Iorwerth Ceitho
Dyddiad geni: 1838?
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: Eleanor Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: saer ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd c. 1838, yr ieuengaf o chwe phlentyn Thomas ac Eleanor Jones, Ffosdwn, Dihewyd, Sir Aberteifi. Pan oedd ef tua 5 mlwydd oed symudodd y teulu i dyddyn Bryn Haidd yn mhlwyf Nantcwnlle. Prentisiwyd ef i grefft saer coed gyda David Davies, Brynhyfryd, Bwlchyllan, a arbenigai mewn gwneuthur peiriannau dyrnu. Symudodd i Lundain i wasanaethu mewn lle llaeth a gofalu am y gwartheg dros weddw a'i merch o Saeson. Priododd yntau'r ferch a daeth i gryn gyfoeth. Y mae ei enw ar adroddiadau argraffedig cyntaf Eglwys Jewin (Methodistiaid Calfinaidd) a pharhaodd yn ffyddlon hyd ei farw. Preswyliai ar y dechrau yn Fitzroy Road, Regent's Park, ac yna, o 1896, yn Barforth Road, Peckham. Treuliai ei hamdden i ysgrifennu traethodau ar gyfer eisteddfodau lleol. Enillodd rai o brif wobrwyon yr eisteddfod genedlaethol am draethodau, gan ddechrau yn 1901 gyda thraethawd ar ' Cyfeiriad y meddwl athronyddol a duwinyddol yng Nghymru yn y dyddiau hyn '; ' Rhestr, gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig, 1700-1900,' yn 1906; a thraethawd ar ' Dylanwad y Rhufeiniaid ar iaith, gwareiddiad, a gwaedoliaeth y Cymry ' (cydradd) yn 1910. Bu ei ' Restr o Enwogion Cymreig ' yn ddefnyddiol iawn at baratoi'r geiriadur hwn, er na chyhoeddwyd ond y rhan gyntaf ohoni (A-H). Claddwyd ef yn Forest Hill, 2 Tachwedd 1930.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.