JONES, EVAN (1790 - 1860), y diwethaf o siapanwyr Brynbuga

Enw: Evan Jones
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1860
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: y diwethaf o siapanwyr Brynbuga
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Diwydiant a Busnes
Awdur: Robert Stephen

yr oedd yn disgyn o deulu Allgood. Prynodd y gwaith siapan gan John Pyrke yn 1826, eithr ar ôl marw John Hughes (1784 - 1851) - a marw Morgan Davies (1770 - 1837), ei arlunydd, cymharol ychydig o sylw a roes i'r busnes hwn gan ymddiddori fwy a mwy yn ei fferm, ei siop nwyddau haearn, ei waith priddfeini, a'i wai'th nwy - heb sôn am ei ran mewn bywyd cyhoeddus (bu'n aldramon Brynbuga a chwe gwaith yn borthfaer). Yr oedd yn gyfaill mynwesol i Edward John Trelawny (1792 - 1881) - gweler y D.N.B. - pan oedd hwnnw'n byw yn Twyn Bell, gerllaw Brynbuga ar stad Cefn Ila (1840-58). Yr oedd Evan Jones yn ymddiriedolwr eglwys Annibynnol Twyn. Bu farw 12 Mawrth 1860, ac fe'i claddwyd yn Twyn. Gadawsai ei waith siapanio i'w nith Elizabeth Jones. Priododd hi Philip John Pulling yn 1869, gwerthodd y stoc yn 1872, ac ymfudodd i U.D.A.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.