JONES, EVAN ('Ieuan Buallt '; 1850 - 1928), amaethwr, hanesydd lleol, a hynafiaethydd

Enw: Evan Jones
Ffugenw: Ieuan Buallt
Dyddiad geni: 1850
Dyddiad marw: 1928
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: amaethwr, hanesydd lleol, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Charles Jones

Ganwyd 6 Chwefror 1850 yn Tynypant, Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Rhoes lawer o'i hamdden i astudio a chasglu esiamplau o bethau yn taflu goleuni ar hanes, traddodiadau, hynafiaethau, ffraethebion, diarhebion, a llên gwerin yr ardal y treuliodd ei oes ynddi. Ysgrifennai ar rai o'r pynciau hyn i Cymru (O.M.E.) - gweler cyf. 65, 66, 67, a 69, i'r Geninen, ac i gylchgronau eraill. Dair blynedd cyn ei farw cyhoeddwyd (yn Abertawe) Doethineb Llafar, yn bennaf fel y'i clybuwyd yng Nghantref Buallt, o gasgliad Evan Jones. Trefnodd yn ei ewyllys fod rhai o'r pethau a gasglasai yn ystod ei oes i'w trosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw yn ei gartref, Tynypant, Llanwrtyd, 3 Chwefror 1928.

Ceir casgliad helaeth o'i lawysgrifau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan - rhifau 1793/1-654, 2038/1-137 a 2384/1-186.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.