JONES, OWEN GETHIN ('Gethin'; 1816 - 1883), saer a llenor

Enw: Owen Gethin Jones
Ffugenw: Gethin
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1883
Priod: Ann Jones (née Owen)
Rhiant: Grace Jones
Rhiant: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: saer a llenor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1 Mai 1816 yn Tyn-y-cae, Penmachno, yn fab i Owen a Grace Jones. Saer maen oedd ei dad, a dygwyd yntau i fyny yn yr un grefft, ond yn nes ymlaen troes yn saer coed, yna'n adeiladydd, ac yn y diwedd yn 'contractor' ar raddfa go helaeth. Priododd (1843) ag Ann, merch William Owen o'r Coetmor ac ŵyres i'r porthmon adnabyddus Robert Jones o'r Bwlch Bach yn Nolwyddelan; bu hi farw yn 1873. Yn 1852 prynodd Dyddyn Cethin a gweddnewidiodd yr adeiladau a'r tir yno.

Ar ben ei weithgarwch fel amaethwr a chrefftwr a dyn busnes, yr oedd 'Gethin' yn llenor da, yn brydydd diwyd, ac yn hynafiaethydd lleol gwybodus, fel y prawf ei draethodau ar hanes plwyfi Penmachno, Ysbyty Ifan, a Dolwyddelan. Parlyswyd ef ddechrau 1882, a bu farw 29 Ionawr 1883.

Cyhoeddwyd yn 1884 y gyfrol Gweithiau Gethin , sy'n cynnwys byr-gofiant y seiliwyd y nodyn presennol arno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.