JONES, Syr HENRY (1852 - 1922), athronydd

Enw: Henry Jones
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1922
Priod: Annie Jones (née Walker)
Plentyn: Elias Henry Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athronydd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Daniel Davies

Ganwyd 30 Tachwedd 1852 yn Llangernyw, sir Ddinbych, mab i grydd. Prentisiwyd i'w dad yn 12 oed, ond, wedi ymdrech hir a chaled am addysg, llwyddodd i ymgymhwyso fel ' athro trwyddedig ' yng Ngholeg Normal Bangor, a bu'n feistr am ddwy flynedd ar ysgol elfennol ym Mrynaman. Penderfynodd wedyn baratoi ar gyfer gweinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd, enillodd ysgoloriaeth y Dr. Williams, a daeth yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Glasgow yn 1875, lle y dylanwadodd Edward Caird yn ddirfawr ar ei feddwl a'i yrfa. Graddiodd yn 1878, ac enillodd gymrodoriaeth Clark, a'i galluogodd i astudio ymhellach yn Glasgow am bedair blynedd, a chynnwys cyfnodau byrion yn Rhydychen ac yn yr Almaen. Yn 1882 priododd Annie Walker, Kilbirnie.

Etholwyd Henry Jones yn ddarlithydd mewn athroniaeth yn Aberystwyth yn 1882; ac yn athro ym Mangor (1884), yn S. Andrews (1891), ac yn Glasgow, fel olynwr i E. Caird (1894). Ac ef yn athro o fri, hanfod ei athrawiaeth oedd dehongliad Caird o idealiaeth Hegel, ond cyfrannodd y Beibl a'r prifeirdd hefyd at ei feddwl a'i arddull. Ffordd i fyw oedd athroniaeth iddo ef, ffydd i'w dysgu a'i derbyn. Gwerthoedd moesol oedd sylfaen ei gredo; arferai bwysleisio anfeidroldeb yn ogystal â meidroldeb dyn, a synio am y byd-broses fel sylweddoliad cynyddol o Dduw Cariad hollgynhwysfawr, sydd beunydd yn symud ac eto'n berffaith. Aml ac amrywiol oedd ei ysgrifau: y pwysicaf yw ei lyfrau ar Browning (1891), ar Lotze (1895), ac A Faith that Enquires (1922) - darlithiau Gifford a draddodwyd yn Glasgow yn 1920-1. Fel Rhyddfrydwr gwresog, a chanddo ddiddordeb dwfn mewn materion cymdeithasol, cychwynnodd Gymdeithas Ddinesig Glasgow. Llafuriodd yn ddiflino dros ddatblygiad addysg yng Nghymru : 'roedd yn flaenllaw yn y mudiad a arweiniodd i Ddeddf Addysg Ganolradd (1889), ac ar ôl sefydlu Prifysgol Cymru cychwynnodd y cynllun o godi 'treth geinog' drwy'r cynghorau sirol at addysg uwchraddol; gwasanaethodd hefyd ar lawer comisiwn ac ar amryw bwyllgorau. Er gwaethaf triniaeth lawfeddygol at y cancr, gweithiodd yn egnïol i helpu'r ymdrech genedlaethol adeg y rhyfel, ac ymwelodd â'r Unol Daleithiau yn 1918. Bu farw yn Tighnabruaich, Argyll, 4 Chwefror 1922.

Enillodd lawer anrhydedd: LL.D. myg. (S. Andrews) yn 1891, F.B.A. (1904), D.Litt, myg. (Cymru) yn 1905, urdd marchog (1912). C.H., a medal aur y Cymmrodorion (1922). O'i chwe plentyn, bu farw dau yn eu mebyd, a syrthiodd un mab yn rhyfel 1914-8. Yn 1934 sefydlwyd cronfa goffadwriaethol i brynu ei gartref yn Llangernyw, a defnyddiwyd gweddill y gronfa i sefydlu gwobr flynyddol mewn athroniaeth foesol a pholiticaidd yn Aberystwyth, Bangor, Coleg Harlech, S. Andrews, a Glasgow.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.