JONES, HUGH ('Gwyndaf Ieuanc '; fl. 1812), bardd

Enw: Hugh Jones
Ffugenw: Gwyndaf Ieuanc
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

dywedir mai mewn tyddyn a elwid Pen-y-groes, ym mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon y ganwyd ef. Yr oedd yn saer coed wrth ei grefft, ac yn Fethodist Calfinaidd. Ymddiddorai mewn barddoniaeth a meistrolodd y cynganeddion. Yn anffodus ni chadwyd ond ychydig o'i weithiau. Cyhoeddwyd ei awdl, ' Arwyrain Amaethyddiaeth,' a gyfansoddwyd ar gyfer eisteddfod Tremadog yn 1812, yn Cell Callestr. Ymddangosodd rhai o'i gyfansoddiadau yn y misolion Cymraeg hefyd. Dywedir iddo symud tua diwedd ei oes i ardal Nantlle, lle y bu farw. Ni wyddys ai yno ai yn Llanwnda y claddwyd ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.