JONES, JENKIN (1700? - 1742), gweinidog Arminaidd

Enw: Jenkin Jones
Dyddiad geni: 1700?
Dyddiad marw: 1742
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Arminaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yn Trafle, Llanwenog, yn 1700(?). Symudodd y teulu wedyn i Fryngranod ar bwys, a heb fod ymhell oddi wrth ddylanwad rhyddfrydig Crugymaen. Yn llyfr eglwys y Cilgwyn ceir y cofnod: 'Jenkin Jones of Llwynrhydowen; ordained April 1726, obiit 1742.' Ni wyddom ddim o'i hanes bore. Yr oedd yng Ngholeg Caerfyrddin o 1720 i 1722. Aelod ydoedd o gapel Annibynnol Pantycreuddyn, meddir, a hwyrach ei fod yn teimlo ysbryd rhyddfrydig Crugymaen a Chaerfyrddin yn cael ei lethu yma. Bu rhwyg yn y gynulleidfa, a dechreuodd yntau bregethu y syniadau newydd neu Arminiaeth yn y Wernhir neu Penybanc tua 1726. Yn 1733 cododd gapel Llwynrhydowen, a dyma'r capel Arminaidd cyntaf yng Nghymru.

Cyhoeddodd o leiaf ddau lyfr: Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol, 1729, a Catechismau i'w dysgu gan blant, 1732, a dau gyfieithiad o'r Saesneg, Llun Agrippa, 1723, a Dydd y Farn Fawr, 1727. Cyhoeddwyd wedi'i farw ei Hymnau cymmwys i addoliad Duw , 1768. Apostol Arminiaeth ydoedd, a'i brif waith oedd gosod y Beibl yn uwch na chredo. Nithiodd yr hen syniadau gan droi arnynt olau rheswm. Cyn ei farw yr oedd chwech neu saith o weinidogion ac eglwysi wedi derbyn y syniadau newydd.

Bu farw yn 1742 yn ŵr ifanc 42 mlwydd oed, a chladdwyd ef 30 Mehefin 1742 ym mynwent eglwys Llandysul.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.