Ganwyd 10 Awst 1833 yn Llangristiolus, sir Fôn, mab John Jones a Jane (Jerman). Bu'n gweithio ar y fferm i gychwyn ac wedyn fel chwarelwr yn Bethesda, Sir Gaernarfon; cafodd ddamwain yn y chwarel a bu am gyfnod heb fedru gweithio. Bu yn ysgol ' Eben Fardd,' Clynnog, ac wedyn yng Ngholeg y Bala, 1860-3. Wedi ei ordeinio bu'n gweinidogaethu i Gymry yng ngogledd Lloegr, 1863-9. Priododd - Thomas, yr Orsedd, sir Fôn. Hwyliodd i'r India yn 1869 a chyrraedd Bryniau Khassia erbyn Mawrth 1870. Bu'n gweinidogaethu yn Jowai am gyfnod. Symudodd i Shillong yn 1875; bu ei wasanaeth yno yn nodedig o werthfawr yn ystod ymweliad y colera yn 1879. Troes yn ôl i Gymru er adennill ei iechyd a bu farw 14 Ebrill 1890, ar y llong heb fod ymhell o Dungeness; claddwyd ef ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl, 18 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.